[neidio i'r prif gynnwys]

Stoc Tai Cymdeithas Tai Gwynedd

29 o dai a fflatiau ar gael led-led gogledd Gwynedd i'w gosod i bobl leol

Oriel Stoc Tai Cymdeithas Tai GwyneddTai hanesyddol

Dros y blynyddoedd, daeth ambell i adeilad sydd â chysylltiadau hanesyddol difyr i ddwylo’r Gymdeithas. Roedd y tŷ a brynwyd gan denant yng Nghlynnog Fawr yn hen ysgoldy Eben Fardd, a’r tŷ sy’n dal yn eiddo’r Gymdeithas yn Neiniolen yn gartref un o sylfaenwyr ac ysgrifennydd cyntaf Plaid Genedlaethol Cymru, H.R.Jones. Gosodwyd carreg ar y tŷ hwnnw i gofio H.R., ac un arall ar 108, Ffordd Rhedyw, Llanllyfni - y tŷ cyntaf a brynwyd gan y Gymdeithas - er cof am Brian a Rona Morgan Edwards a fu’n gymaint o gefn i’r Gymdeithas yn nau ddegawd cyntaf ei bodolaeth.

Y Gymdeithas yn iawn - a'i chyllid yn gryf

Cyn argyfwng y banciau, a achoswyd yn bennaf drwy i’r banciau roi morgeisi afresymol yn seiliedig ar brisiau eiddo chwyddedig, roedd Tai Gwynedd yn bendant mai darparu tai ar rent fforddiadwy i bobl leol oedd y flaenoriaeth. A’r tai hynny yn dai o’r stoc bresennol, ynghanol y gymuned, ac nid tai newydd ar y cyrion. Wedi’r argyfwng, profwyd y Gymdeithas yn hollol iawn, ac y mae ein blaenoriaeth yn aros yr un.

Ar yr un pryd, yn eironig ddigon, mae’r chwyddiant yng ngwerth eiddo dros yr ugain mlynedd diwethaf wedi bod yn gymorth i gyllid y Gymdeithas, ac wedi sicrhau iddi seiliau ariannol cadarn, fel y gallwn edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus. Ar y cyfri diwethaf, mae gwerth eiddo’r Gymdeithas yn £3,240,000, a’r Stoc Benthyg a ddelir ar ran y buddsoddwyr yn £321,000. Mae gennym 29 o dai a fflatiau i’w gosod. Ers ei sefydlu, mae’r Gymdeithas wedi cartrefu cannoedd o deuluoedd ac unigolion o Wynedd yn eu cynefin.

Cynnal a chadw - a gwella

Mae’r gwaith o adnewyddu ein tai yn dal i fynd yn ei flaen yn rheolaidd, a chawsom gymorth i roi larymau tân newydd yn y tai, ac i roi gwres canolog mewn rhai eraill, a gwella’r insiwleiddio, gan grantiau HEES a’r prosiect “Yma i helpu”. Gan ein bod wedi cofrestru fel landlord cymdeithasol elusennol, mae’r Gymdeithas hefyd wedi derbyn cymorth trwy law Cyngor Gwynedd i uwchraddio rhai o’n cartrefi, ac o ganlyniad, mae safon eiddo’r Gymdeithas bellach gystal os nad gwell nag erioed o’r blaen.

Mae’r gwaith o edrych ar y posibilrwydd o godi tai ffordiadwy ar gyfer eu gwerthu yn dal i fynd rhagddo, ar y cyd gyda’r Ymddiriedolaeth Tir Gymunedol yn Nyffryn Nantlle.