Clwb Cadw-mi-Gei
Mae rhai cannoedd o bobl ifanc (a rhai heb fod mor ifanc erbyn hyn!) led-led Cymru wedi cynilo arian yn ein “Clwb Cadw-mi-Gei” dros y blynyddoedd. Mae croeso o hyd i rieni agor cyfrif yn enw’r plant. Pa anrheg well i’r babi newydd-anedig nac agor cyfrif yn ei enw, ac anfon rhodd i’r Gymdeithas? Telir llog sy’n newid gyda chyfradd y banc, ond fel yn achos y rhan fwyaf o sefydliadau, mae graddfa’r llog yn isel ar hyn o bryd.
Cewch ragor o wybodaeth am hyn, ac am y dulliau o fuddsoddi yn y Gymdeithas, ac am waith y Gymdeithas, trwy gysylltu efo ni.
Dafydd Iwan, Ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn cyflwyno goriadau eu cartrefi newydd i rai o'n tenantiaid.