[neidio i'r prif gynnwys]

Pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd

Mehefin 2011

40 mlynedd o lwyddiant

Do, bu Cymdeithas Tai Gwynedd wrthi am ddeugain mlynedd. Yn 1971 y daeth criw bychan o genedlaetholwyr at ei gilydd i weld beth ellid ei wneud yn wyneb y cynnydd syfrdanol mewn tai haf ac ail gartrefi yng Ngwynedd.

Cyflwynwyd ni i syniad oedd yn newydd iawn i Gymru ar y pryd, sef Cymdeithas Dai (“Housing Association”), a hynny gan y diweddar Brian Morgan Edwards. Helpodd ni i’w sefydlu a’i chofrestru, a’n cyflwyno i’r dull “Stoc Benthyg” o godi arian i wneud y fenter yn bosib.

Roedd ymateb pobol Cymru yn wych, a rhoddwyd miloedd o arian i’r Gymdeithas ar fenthyg gan bobl o bob rhan o Gymru, a defnyddiwyd yr arian hwnnw i brynu tai yn ein pentrefi gwledig tra roedd eu pris yn parhau’n gymharol isel. Defnyddiwyd grantiau i’w hadnewyddu, ac yna eu gosod i deuluoedd lleol oedd mewn angen cartref. Cofia rhai ohonom yn dda y wefr o weld y teulu cyntaf yn symud i mewn , yn Nhrefor, ac un yn fuan wedyn yn Llanllyfni.

Dafydd Iwan, Ysgrifennydd y Gymdeithas, ac un o’r sylfaenwyr, yn cyflwyno goriad ei chartref newydd ym Mhont-Lloc, Nebo i denant diweddaraf Tai Gwynedd.

Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed

Darogan Methiant

Ychydig iawn o bobol y byd busnes a chyllid a gredai y byddem yn llwyddo. “Chewch chi byth ddigon o incwm rhent i gynnal y tai, heb sôn am dalu llog ar y buddsoddiadau” oedd eu rhybudd. Ond dal ati wnaethon ni, heb wybod y byddai chwyddiant anferthol ym mhrisiau tai, ac mewn rhenti, yn fodd i wneud sefyllfa’r Gymdeithas yn gadarnach gyda’r blynyddoedd. Ond yn lle benthyg mwy o arian ar sail gwerth yr eiddo, cadwodd y Gymdeithas at lwybr darbodus, a defnyddio unrhyw gynllun (megis y Manpower Services Commission) i ddarparu llafur ar gyfer y gwaith. Am nifer o flynyddoedd, bu’r Gymdeithas yn cyflogi tim o adeiladwyr lleol i weithio ar ein tai, dan arweiniad y diweddar annwyl Edwin Pritchard, Garndolbenmaen.

Ond yna daeth llywodraeth Thatcher a Chymdeithasau Tai mawr i gymryd drosodd gwaith yr Awdurdodau Lleol, a’r Ddeddf “Hawl i Brynu”, sydd wedi cael gwared o gymaint o dai cymdeithasol. Ond penderfynodd Tai Gwynedd aros yn annibynnol, a chadw at ein llwybr ein hunain. A phan gododd pris tai i’r entrychion, penderfynwyd aros gyda stoc o tua 30 eiddo, a sicrhau eu bod yn y cyflwr gorau posib, ac ar gael am byth fel cartrefi i bobl leol. (Ond cadwn ein llygaid ar agor rhag ofn y daw bargen, fel y gallwn ychwanegu at ein stoc o dro i dro.)

Ysgrifennydd a Threfnydd y Gymdeithas, Meical Roberts, gyda thenantiaid hynaf Tai Gwynedd, Mr. a Mrs. Clarke.

Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed

Gwirfoddol

Dywedais mai’r buddsoddwyr sydd wedi cadw’r Gymdeithas ar ei thraed, ond rhaid ychwanegu na fyddai gwaith y Gymdeithas yn bosib heb lafur gwirfoddol aelodau’r Pwyllgor Rheoli dros y deugain mlynedd hyn. Fe gollwyd nifer o’r aelodau gwreiddiol ar y daith, ond braf yw talu teyrnged iddyn nhw i gyd, ac yn arbennig y rhai sy’n dal i weithredu ar y Pwyllgor. Braf yw ychwanegu ein diolch i’r rhai a fu’n gweithredu fel Trefnwyr i’r Gymdeithas dros y blynyddoedd, ac yn arbennig felly i’n Trefnydd presennol, Meical Roberts, sy’n cyfuno’r gwaith gyda’i fusnes llwyddiannus yn Oriel Llun-Mewn-Ffrâm ym Mhen-y-groes.

Trysorydd Tai Gwynedd, Alwyn Jones, a’r Ysgrifennydd gyda un o denantiaid y Gymdeithas yn Ffordd Rhedyw, Llanllyfni.

Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oedOriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed Oriel luniau pen-blwydd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 40 oed

Rhag-Hysbysiad

Yr haf hwn, i nodi’r deugeinfed pen-blwydd, byddwn yn gwahodd ein tenantiaid i gyd, a chyn-aelodau o’r Pwyllgor Rheoli, i noson gymdeithasol yng nghyffiniau Dyffryn Nantlle i ddathlu cyfraniad Cymdeithas Tai Gwynedd i fywyd y cylch. Ac y mae ‘Wedi 7’ wedi addo y byddan nhw yno i ddathlu gyda ni. Felly gwyliwch amdanom!

Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Tai Gwynedd (Mehefin 2011)

Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Tai Gwynedd (Mehefin 2011)

Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Tai Gwynedd (Mehefin 2011)